R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer tyfu economi Cymru?OAQ(4)1743(FM)
2. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r broses o graffu ar wasanaethau sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus?OAQ(4)1744(FM)
3. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reolaeth ystâd y GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)1745(FM)
4. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio annog pobl ifanc yn benodol i beidio ag ysmygu? OAQ(4)1747(FM)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth ffydd yng Nghymru?OAQ(4)1736(FM)
6. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo diogelwch ar y rhyngrwyd ar gyfer plant? OAQ(4)1737(FM)
7. Lynne Neagle (Torfaen):Pa gamau a fydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau y glynir at bolisi Llywodraeth Cymru ar glustogfeydd o gwmpas safleoedd glo brig? OAQ(4)1752(FM)
8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd menywod yng Nghymru? OAQ(4)1755(FM)
9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi ynni Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1746(FM)W
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau sy’n cael eu cymryd i wella amseroedd aros y GIG ar gyfer trigolion Canol De Cymru? OAQ(4)1748(FM)
11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Cyflymu Cymru? OAQ(4)1754(FM)
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i gynyddu nifer y gwelyau gofal dwys cardiaidd yn Ysbyty Treforys yn Abertawe? OAQ(4)1739(FM)
13. William Graham (Dwyrain De Cymru):Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o’r effaith ar ddemocratiaeth leol os na fydd etholiadau i bob awdurdod lleol yn cael eu cynnal yn yr un flwyddyn? OAQ(4)1751(FM)
14. Julie James (Gorllewin Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltiadau trafnidiaeth rheilffyrdd yn ne Cymru?OAQ(4)1741(FM)
15. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa asesiad a wnaeth y Prif Weinidog o werth Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i gymunedau lleol yng Nghymru?OAQ(4)1738(FM)